Caerffili (etholaeth)
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Caerffili yn etholaeth yn ne Cymru. Mae hi'n ymestyn o gyrion Caerdydd yn y de i Fannau Brycheiniog yn y gogledd. Fe ddioddefodd yr ardal ar ôl cwymp y diwydiant glo, ond i raddau mae diwydiannau newydd wedi cymryd lle'r hen ddiwydiant trwm. Mae nifer yn cymudo oddi yma i'w gwaith yng Nghaerdydd a Chasnewydd.
Mae Llafur wedi bod yn gryf iawn yma yn y gorffennol -- hon oedd hen sedd Ron Davies. Serch hynny mae Plaid Cymru wedi cael llwyddiannau yma yn y gorffennol, yn enwedig wrth gipio Cyngor Caerffili yn achlysurol.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Etholiadau i'r Cynulliad
Mae Jeffrey Cuthbert wedi cynrychioli Caerffili yn y Cynulliad ers 2003 ar ôl i Ron Davies ymddiswyddo cyn yr etholiad hwnnw. Mae'r etholaeth yn ran o ranbarth Dwyrain De Cymru.
[golygu] Canlyniadau Etholiad 2003
Ymgeisydd | Plaid | Pleidleisiau | Canran |
---|---|---|---|
Jeffrey Cuthbert | Llafur | 11893 | 46.8 |
Lindsay Whittle | Plaid Cymru | 6919 | 27.3 |
Laura Jones | Ceidwadwyr | 2570 | 10.1 |
Rob Roffe | Democratiaid Rhyddfrydol | 1281 | 5.0 |
Ann Blackman | Annibynnol | 1204 | 4.7 |
Avril Dafydd-Lewis | CCI | 930 | 3.7 |
Brenda Vipass | UKIP | 590 | 2.3 |
[golygu] Etholiadau i San Steffan
Wayne David (Llafur) yw Aelod Seneddol Caerffili, a hynny ers 2001.
[golygu] Canlyniadau Etholiad 2005
Ymgeisydd | Plaid | Pleidleisiau | Canran |
---|---|---|---|
Wayne David | Llafur | 22190 | 56.6 |
Lindsay Whittle | Plaid Cymru | 6831 | 17.4 |
Stephen Watson | Ceidwadwyr | 5711 | 14.6 |
Ashgar Ali | Democratiaid Rhyddfrydol | 3861 | 9.8 |
Graeme Beard | Cymru Ymlaen | 636 | 1.6 |
[golygu] Canlyniadau Etholiad 2001
Ymgeisydd | Plaid | Pleidleisiau | Canran |
---|---|---|---|
Wayne David | Llafur | 22597 | 58.5 |
Lindsay Whittle | Plaid Cymru | 8172 | 21.1 |
David Simmonds | Ceidwadwyr | 4413 | 11.4 |
Rob Roffe | Democratiaid Rhyddfrydol | 3469 | 9.0 |