Cell
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Uned sylfaenol pob peth byw yw cell. Mae rhai nodweddion cyffredin i bob cell, gyda nifer o gelloedd arbennig yn dangos nodweddion ychwanegol. Mae i bob cell:
- Y DNA gyda'r wybodaeth genetig.
- Proteinau sy'n cynnal y prosesau biocemegol
- Cellbilen sy'n amfddifyn y gell ac yn gweithredi fel hildlydd o amgylch y gell, gan gadael rhai sylweddau i ddianc o'r gell neu i ddod i'r gell trwy broses o drylediad neu osmosis. Mae rhai sylweddau hanfodol yn cael eu symud ar draws y gellbilen gan broses o gludiant actif, sef broses sy'n defnyddio egni i symud sylwedd yn erbyn y graddiant crynodiad.
Mae tasgau cyffredin sylfaenol i bob cell:
- Cellraniad er mwyn lluosogi celloedd.
- Y metabolaeth sy'n newid defnydd newydd i egni ac yn gwaredu defnydd gwastraff
- Synthesis proteinau trwy drawsgrifio DNA i mRNA a mRNA i broteinau.
Mae mwy na 220 math o gerlloedd mewn corff dynol.
[golygu] Adeiledd cell
Mae celloedd anifeiliaid a chellau blanhigion dipyn yn wahanol, ond dyma'r prif organynnau:
- Celloedd anifeiliaid a phlanhigion
- Y cellbilen o gwmpas y gell sy'n cadw'r cyfan wrth ei gilydd
- Y cnewyllyn mae'n cynwys y cromosomau gyda'r DNA
- Y cytoplasm o gwmpas y cnewyllyn ac i mewn y pilen
- Y gwagolyn cell llawn hylif
- Y mitocondria sy'n cynhyrchu egni
- Y ribosom sy'n trawsgrifio mRNA
- Celloedd Planhegion
- Y cloroplast sy'n cynnwys y cloroffyl
- Y cellfur wedi i wneud o gellwlos ac yn cynnal ffurf y planhigion
[golygu] Hanes
Y tro cyntaf i rywun ddod o hyd i gelloedd oedd ym 1665 - ffeindiodd Robert Hooke celloedd corc ac wedyn celloedd planhigion byw. Roedd yn defnyddio'r un o'r microsgopau cyntaf i hynny a roedd Anton van Leeuwenhoek yn dadansoddi gwaed ac arall ym 1675.
Yn y pedwaredd ganrif ar bymtheg darganfyddodd Theodor Schwann gelloedd anifeiliaid a phlanhegion. Darganfyddodd Louis Pasteur nid yw'r celloedd yn dod o'r dim (generatio spontanea) - a Rudolf Virchow fod pob cell yn geni o gell arall (omni cellula ex cellula).