Clefyd y siwgr
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cyflwr difrifol yw clefyd y siwgr, sy’n digwydd pan mae’r corff yn methu defnyddio’r siwgr sydd yn y gwaed. Heb ei reoli’n iawn, gall clefyd y siwgr arwain at glefyd y galon, clefyd yr arennau, dallineb, a cholli’r rhan isaf o’r goes. Ar y llaw arall, o gael eu trin a’u cefnogi’n iawn, gall pobl â chlefyd y siwgr fyw bywydau hir a llawn iawn.
Mae tua 93,000 o bobl Cymru’n gwybod bod clefyd y siwgr arnynt, ac mae’n debyg bod tua 40,000 o bobl eraill yn byw gyda’r cyflwr heb ei wybod eto. Clefyd y siwgr a’i gymhlethdodau sy’n gyfrifol am 9% o gostau ysbytai Cymru.
I gael mwy o wybodaeth Gymraeg am glefyd y siwgr, ewch at wefan Diabetes UK, y brif elusen yng ngwledydd Prydain i bobl â'r clefyd: http://www.diabetes.org.uk/diabetes/welsh/index.html