Djerba
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Ynys yn y Môr Canoldir oddi ar arfordir Tunisia yw Djerba / Jerba / Gerba gyda arwynebedd o 510 Km² (197 milltir sgwâr, ychydig bach yn llai na ynys Môn). Hwn yw ynys fwyaf gogledd Affrica. Mae'r holl ynys yn anialwch gyda rhyw 1,500,000 palmwydden ddatys a rhyw 500,000 olewydden yn tyfu. Mae ganddo filltiroedd o draethau o dywod mân. Prin iawn fydd hi'n glawio. Yn y gaeaf fe fydd y tymheredd yn gostwng yn llym fin nos, ond fe fydd e ddim yn rhewi.
Yn ôl chwedloniaeth Groeg, Djerba odd gwlad y Lotophagi (bwytawyr y lotus - ffrwyth chwedlonol). Yn ôl y chwedl, roedd pwy bynnag oedd yn bwyta'r ffrwyth yn colli pob hiraeth am gartref. Fe gynigodd y Lotophagi y ffrwythau i ddynion Odysseus.
Meninx oedd enw Djerba yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Fe adeiladodd y Rhufeiniaid sarn i gysylltu'r ynys at gyfandir Affrica.
Mae gan Djerba boblogaeth o 450,000. Berber yw'r rhan fwyaf ohonnyn nhw. Mae yna gymuned fach Iddewig hefyd. Mae'n debyg wnaeth eu hynafiaid ffoi Caersalem pan gafodd ei ddinistrio gan Titus yn 70 O.C.. Y prif dref yw Houmt-Souk (cynaniad: haw-mat-as-SŴG), poblogaeth 8,000. Ieithoedd Djerba yw Arabeg, Ffrangeg a Berber, fel gweddill y Maghreb.
Mae rhan fwyaf o dai Djerba yn wyn gyda'r drysau a'r ffenestri wedi peintio'n las. Fe fydd y muriau gwyn yn adlewychu gwres yr haul a'r ffenestri glas yn cadw pryfed yn ôl. Mae gweddill Tunisia wedi dynwared y ffasiwn hwn, yn enwedig Sidi-bou-Saïd ger Tunis.
Synagog Al-Ghriba yw'r synagog mwyaf prydferth yn ngogledd Affrica. Cafodd y synagog wreiddiol ei sefydlu yn y 6ed ganrif C.C..
Un o ddiwydiannau Djerba yw pysgota ysbwng.
Djerba yw un o'r lleoedd mwyaf distaw yn y byd.