Wicipedia:Gwahaniaethu
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Ar gyfer termau sydd â mwy nag un ystyr (fel Mawrth, sydd yn golygu naill ai "mis Mawrth" neu'r blaned "Mawrth") bydd yn rhaid cyflwyno tudalen wahaniaethu. Mae dau fath o dudalen wahaniaethu o flaen pob erthygl perthnasol; naill ai mae defnyddio'r term yn eich hebrwng yn syth at y dudalen gwahaniaethu (e.e. Conwy (gwahaniaethu)), neu fe ewch at erthygl sy'n defnyddio'r term a dolen ar ben y dudalen honno yn eich hebrwng at y dudalen wahaniaethu (e.e. Tsieina). Wrth gwrs, mae'r cyntaf (sef tudalen wahaniaethu o flaen pob tudalen perthnasol) yn well, ond os oes llawer o gysylltiadau i Wicipediau mewn ieithoedd eraill ers meitin efallai ei bod hi'n syniad defnyddio'r ail ddull.
Pan nad oes rhagor na dau ystyr gan derm, a bod gan y dudalen lawer o gysylltiadau rhyngieithol ers meitin, gallwch ysgrifennu brawddeg sydd yn awgrymu'r ystyr arall ar ddechrau'r erthygl sy'n cysylltu i'r dudalen newydd (e.e. fel Gwyn Thomas).
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.