Lingua franca
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Lingua Franca oedd cyfrwng cyfathrebu masnachwyr y Môr Canoldir yn yr Oesoedd Canol. Roedd yn gymysgedd o Eidaleg, Ffrangeg, Groeg, Arabeg a Sbaeneg. Ystyr wreiddiol y gair yw "iaith y Ffrancod" (frank yw'r gair Arabeg am Ewropeiad).
Am ganrifoedd lawer Lladin oedd lingua franca dysg yn Ewrop. Yn ddiweddarach roedd Ffrangeg yn lingua franca diplomyddiaeth a diwylliant led-led Ewrop a rhannau eraill o'r byd.
Heddiw ystyr lingua franca yw unrhyw iaith sy'n cael ei siarad rhwng rhai sy ddim yn medru ieithoedd ei gilydd. Y mwyaf poblogaidd ydy Saesneg (yn cynnwys Pisin), Ffrangeg (yn cynnwys Creol), Almaeneg, Sbaeneg, Arabeg, Hindi, Eidaleg a Swahili.
Gwrthwynebeiriau lingua franca yw tafodiaith leol, patwa.