Pen-y-bont ar Ogwr
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Pen-y-bont ar Ogwr Pen-y-bont ar Ogwr |
|
Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn dref ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr ag oddeutu 40,000 o bobol. Ei gefeilldref yw Langenau yn Yr Almaen. Tan y 20fed ganrif, tref marchnad oedd hi yn bennaf. Mae hi bellach yn dref diwydiannol oherwydd ddatblygu ystadau diwydiannol ger yr M4 sydd wedi denu cwmnïau megis Sony a Ford i'r ardal. Mae Pen-y-bont yn gartref hefyd i bencadlys Heddlu De Cymru. Adeiladwyd garchar preifat (Carchar Parc Ei Fawrhydi) yn niwedd y 1990au ar safle hen ysbyty seiciatreg ar gyrion y dref uwchben pentref Coety.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Ardaloedd
- Pendre
- Llidiart(Litchard yn Saesneg)
- Hendre(Nolton yn Saesneg)
- Castell Newydd (Newcastle yn Saesneg)
- Cefn Glas
- Bryntirion
- Bragle(Brackla yn Saesneg)
- Hen Gastell(Oldcastle yn Saesneg)
- Melin Wyllt(Wildmill yn Saesneg)
- Chwarela(Quarella yn Saesneg)
[golygu] Afonydd
Mae'r Afon Ogwr yn llifo trwy'r dref, gyda'r Nant Morfa yn ei chyfarfod ger Meysydd y Bragdy. Mae'r Afon Ewenni yn llifo ar gyrion y dref yn Nhredŵr i gyfarfod yr Ogwr ger Castell Ogwr ar ben yr aber.
[golygu] Cysylltiadau ffyrdd a rheil
Mae Pen-y-bont yn agos i gyffyrdd 35 a 36 traffordd yr M4, hanner ffordd rhwng dinas Abertawe a dinas Caerdydd.
Mae gan Pen-y-bont orsaf rheilffordd ar lein y Great Western, gyda gwasanaethau cyflym i ddinas Llundain ac Abertawe. Mae yna orsaf arall ym Melin Wyllt ar lein Maesteg. Mae gwasanaethau lleol yn rhedeg i Gaerdydd a Gorllewin Lloegr ar y brif lein a lein Bro Morgannwg. I'r gorllewin mae gwasanaethau lleol i Abertawe a Gorllewin Cymru. Hefyd mae gwasanaethau lleol i Faesteg. Gweithredir y gwasanaethau lleol gan Trenau Arriva Cymru, a'r gwasanaethau cyflym gan First Great Western.
[golygu] Pobl Enwog
- JPR Williams (rygbi)
- Robert Howley (rygbi)
- Gareth Llewellyn (rygbi)
- Gavin Henson (rygbi)
- David Emmanuel (cynllunydd ffasiwn)
- Huw Edwards, cyflwynwr newyddion y BBC
[golygu] Ysgolion
- Ysgol Gyfun Brynteg
- Ysgol Gyfun Bryntirion
- Ysgol Gynradd Penybont
- Ysgol Gynradd yr Hen Gastell
- Ysgol Gynradd Bragle
- Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ogwr
- Ysgol Gynradd Tremaen
- Ysgol Archddeon John Lewis yr Eglwys yng Nghymru
- Ysgol Gynradd Llidiart
- Ysgol Plant Bach Bryntirion
- Ysgol Plant Iau Llangewydd
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym 1948. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pen-y-bont ar Ogwr 1948
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Ogwr 1998 ym Mhencoed.
[golygu] Gefeilldrefi
[golygu] Gweler hefyd
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.
Trefi a phentrefi Pen-y-bont ar Ogwr |
Maesteg | Pencoed | Pen-y-bont ar Ogwr | Y Pîl | Mynydd Cynffig | Tondu | Bryncethin | Melin Ifan Ddu | Pontycymer | Porthcawl |