Trochydd Mawr
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Trochydd Mawr | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dosbarthiad biolegol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Gavia immer Brunnich], 1764 |
Mae'r Trochydd Mawr (Gavia immer) yn un o aelodau mwyaf teulu'r Trochwyr, tua 73-88 cm o hyd a 122-148 cm ar draws yr adenydd ac yn pwyso rhwng 2.7 a 6.3 kg .
Mae'n nythu ar draws Canada a rhannau gogleddol yr Unol Daleithiau ac yng Ngwlad yr Iâ. Mae'n nythu yn agor i ddŵr, ar lynnoedd fel rheol ac yn dodwy day wy. Yn y gaeaf mae'n symud tua'r de ac mae'n weddol gyffredin ar y môr ger glannau gogledd-orllewin Ewrop.
Yn y tymor nythu mae'n aderyn hawdd ei adnabod, gyda pen du, bol gwyn a marciau du a gwyn ar y cefn. Yn y gaeaf mae llai o ddu a mwy o wyn ar y pen a'r gwddf. Pysgod yw ei brif fwyd, ac maent yn cael eu dal trwy blymio i'r dŵr, weithiau hyd at ddyfnder o 200 troedfedd. Yn y tymor nythu mae gan yr aderyn yma alwad nodweddiadol iawn.
Mae'r aderyn yma yn weddol gyffredin o gwmpas glannau môr Cymru yn y gaeaf. Y lle gorau i'w gweld yw o gwmpas Aberdesach lle gellir gweld hyd at 30 ohonynt ambell dro.