Bashō
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Matsuo Bashō (1644 - 28 Tachwedd 1694) yw'r mwyaf o'r beirdd cerddi haiku yn llenyddiaeth Siapan. Fe'i ganwyd yn 1644 yn ninas Uedo, rhanbarth Iga. Roedd yn fardd cynhyrchiol iawn a chasglwyd ei gerddi mewn sawl blodeugerdd gyfoes. Ei waith mwyaf cyfarwydd y tu allan i Siapan yw'r gyfres o lyfrau taith byr, sy'n gymysgfa o ryddiaith a barddoniaeth, a ysgrifenodd yn rhan olaf ei oes. Maent yn cynnwys Oku no Hosumichi (Y Llwybr Cul i'r Gogledd Eithaf), Nozarashi Kikō (Cofnodion Sgerbwd Agored i'r Tywydd'), Kashima Kikō (Ymweliad â Kashima), Oi no Kabumi (Cofnodion Cod Taith Treuliedig) a Sarashina Kikō (Ymweliad â Sarashima).
[golygu] Llyfryddiaeth
Noboyuki Yuasa (cyf.), Bashō[:] The Narrow Road to the Deep North and other Travel Sketches, (Llundain, 1968), ISBN 0140441859
[golygu] Cysylltiadau allanol
http://carlsensei.com/classical/index.php/author/view/1
http://uoregon.ecu/~kohl/basho/index.html (testun Siapanaeg Oku no Hosumichi gyda chyfieithiad Saesneg a nodiadau)
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.
Categorïau tudalen: Japan | Llên Japan | Llenyddiaeth | Beirdd | Egin