Charles Darwin
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Charles Darwin biolegydd |
|
Genedigaeth: |
12 Chwefror 1809 Amwythig, Lloegr |
Marwolaeth: |
19 Ebrill 1882 Downe, Kent, Lloegr |
Naturiaethwr chwildroadol o Loegr oedd Charles Robert Darwin, F.R.S. (12 Chwefror, 1809 - 19 Ebrill, 1882). Gosododd y seiliau i ddamcaniaeth esblygiad ac hefyd cynigiodd yr egwyddor o ddisgyniad cyffredinol fel canlyniad i ddetholiad naturiol. Cyflwynwyd y ddamcaniaeth yn ei lyfr The Origin of Species, a gyhoeddwyd yn 1859 gwaith mwyaf enwog Charles Darwin.
Teithiodd Darwin o gwmpas y byd ar HMS Beagle a roedd ei arsylliadau ar Ymysoedd y Glapagos yn bwysig iawn i'w ddamcaniaeth.
[golygu] Taith ar Beagle
Yn ystod ei deithiau ar Beagle astudiodd Darwin daeareg cyfandiroedd ac ynysoedd yn ogystal a niferoedd o anifeiliaid, planhigion a ffosiliau. Mewn ffordd trefnus iawn, casglodd nifer enfawr o sbesimen nad oedd neb wedi eu hastudio o'r blaen. Rhoddodd y casgliad pwysig yr oedd wedi ei gasglu i'r Amgueddfa Brydeinig (BM). Roedd Darwin yn un o ragflaenyddwyr ecoleg.
Yn ystod ei deithiau, aeth Darwin i'r Ynysfor Cape Ferde, i'r Ynysoedd Falkland, i lanau môr De America, Ynysoedd y Galapagos, Seland Newydd ac Awstralia. Daeth yn ôl adref ar 2 Hydref, 1836, ac ar ôl hynny roedd e'n dadansoddi y sbesimenau a gasglodd, pan sylweddolodd fod ffosiliau anifeiliaid a phlanhigion o'r un ardal ddaearyddol yn debyg iawn i'w gilydd. Ei ddarganfyddiad pwysicaf oedd am grwbanod ac adar Ynysoedd y Galapagos: mae math arbennig gwahanol ohonynt ar bob ynys yn dilyn eu golwg, eu bwyd ac ati, ond yn debyg iawn fel arall.
Yng ngwanwyn 1837 hysbyswyd ef fod adaregwyr yr Amgueddfa Brydeinig - Byd Natur wedi derbyn mai llinos oedd yr holl adar a gasglodd ar Ynysoedd y Galapagos. Hyn a thraethawd Thomas Malthus ar boblogaeth a cyhoeddwyd ym 1798 arweiniodd at ddamcaniaeth esblygiad trwy ddetholiad naturol a rhywiol. Er enghraifft datblygwyd yr holl amrwyiaeth o grwbanod yr Ynysoedd o'r un rhywogaeth trwy ymaddasu i fywyd ar ynysoedd gwahanol, yn ôl ei ddamcaniaeth.
Cyhoeddwyd llyfr am ei damcaniaeth, Notebook on the Transmutation of Species, sydd yn cytuno â Principles of Geology, Lyell ac Essay on the Principle of Population gan Thomas Malthus sydd yn awgrymu fod adnoddau bwyd yn cyfyngu'r boblogaeth i un ardal. Sylweddolodd Darwin fod ei ddamcaniaeth yn gywir a gwnaeth brofion ar golomennod a phlanhigion yn ogystal ag ymchwil gyda bridwyr moch i gryfhau ei ddamcaniaeth.